2 Dderbyn ohonoch hi yn yr Arglwydd, megis y mae yn addas i saint, a'i chynorthwyo hi ym mha beth bynnag y byddo rhaid iddi wrthych: canys hithau hefyd a fu gymorth i lawer, ac i minnau fy hun hefyd.
3 Anerchwch Priscila ac Acwila, fy nghyd‐weithwyr yng Nghrist Iesu;
4 Y rhai dros fy mywyd i a ddodasant eu gyddfau eu hunain i lawr: i'r rhai nid wyf fi yn unig yn diolch, ond hefyd holl eglwysydd y Cenhedloedd.
5 Anerchwch hefyd yr eglwys sydd yn eu tŷ hwy. Anerchwch fy annwyl Epenetus, yr hwn yw blaenffrwyth Achaia yng Nghrist.
6 Anerchwch Mair, yr hon a gymerodd lawer o boen erom ni.
7 Anerchwch Andronicus a Jwnia, fy ngheraint a'm cyd‐garcharorion, y rhai sydd hynod ymhlith yr apostolion, y rhai hefyd oeddynt yng Nghrist o'm blaen i.
8 Anerchwch Amplias, fy anwylyd yn yr Arglwydd.