4 Y rhai dros fy mywyd i a ddodasant eu gyddfau eu hunain i lawr: i'r rhai nid wyf fi yn unig yn diolch, ond hefyd holl eglwysydd y Cenhedloedd.
5 Anerchwch hefyd yr eglwys sydd yn eu tŷ hwy. Anerchwch fy annwyl Epenetus, yr hwn yw blaenffrwyth Achaia yng Nghrist.
6 Anerchwch Mair, yr hon a gymerodd lawer o boen erom ni.
7 Anerchwch Andronicus a Jwnia, fy ngheraint a'm cyd‐garcharorion, y rhai sydd hynod ymhlith yr apostolion, y rhai hefyd oeddynt yng Nghrist o'm blaen i.
8 Anerchwch Amplias, fy anwylyd yn yr Arglwydd.
9 Anerchwch Urbanus, ein cyd‐weithiwr yng Nghrist, a Stachys fy anwylyd.
10 Anerchwch Apeles, y profedig yng Nghrist. Anerchwch y rhai sydd o dylwyth Aristobulus.