9 Anerchwch Urbanus, ein cyd‐weithiwr yng Nghrist, a Stachys fy anwylyd.
10 Anerchwch Apeles, y profedig yng Nghrist. Anerchwch y rhai sydd o dylwyth Aristobulus.
11 Anerchwch Herodion, fy nghâr. Anerchwch y rhai sydd o dylwyth Narcisus, y rhai sydd yn yr Arglwydd.
12 Anerchwch Tryffena a Thryffosa, y rhai a gymerasant boen yn yr Arglwydd. Anerchwch yr annwyl Persis, yr hon a gymerodd lawer o boen yn yr Arglwydd.
13 Anerchwch Rwffus etholedig yn yr Arglwydd, a'i fam ef a minnau.
14 Anerchwch Asyncritus, Phlegon, Hermas, Patrobas, Mercurius; a'r brodyr sydd gyda hwynt.
15 Anerchwch Philogus, a Jwlia, Nereus a'i chwaer, ac Olympas, a'r holl saint y rhai sydd gyda hwynt.