3 Ac felly, os a'r gŵr yn fyw, y bydd hi yn eiddo gŵr arall, hi a elwir yn odinebus: eithr os marw fydd ei gŵr hi, y mae hi yn rhydd oddi wrth y ddeddf; fel nad yw hi odinebus, er bod yn eiddo gŵr arall.
4 Ac felly chwithau, fy mrodyr, ydych wedi meirw i'r ddeddf trwy gorff Crist; fel y byddech eiddo un arall, sef eiddo'r hwn a gyfodwyd o feirw, fel y dygem ffrwyth i Dduw.
5 Canys pan oeddem yn y cnawd, gwyniau pechodau, y rhai oedd trwy'r ddeddf, oedd yn gweithio yn ein haelodau ni, i ddwyn ffrwyth i farwolaeth.
6 Eithr yn awr y rhyddhawyd ni oddi wrth y ddeddf, wedi ein meirw i'r peth y'n hatelid; fel y gwasanaethem mewn newydd‐deb ysbryd, ac nid yn hender y llythyren.
7 Beth wrth hynny a ddywedwn ni? Ai pechod yw'r ddeddf? Na ato Duw. Eithr nid adnabûm i bechod, ond wrth y ddeddf: canys nid adnabuaswn i drachwant, oni bai ddywedyd o'r ddeddf, Na thrachwanta.
8 Eithr pechod, wedi cymryd achlysur trwy'r gorchymyn, a weithiodd ynof fi bob trachwant.
9 Canys heb y ddeddf marw oedd pechod. Eithr yr oeddwn i gynt yn fyw heb y ddeddf: ond pan ddaeth y gorchymyn, yr adfywiodd pechod, a minnau a fûm farw.