8 Eithr pechod, wedi cymryd achlysur trwy'r gorchymyn, a weithiodd ynof fi bob trachwant.
9 Canys heb y ddeddf marw oedd pechod. Eithr yr oeddwn i gynt yn fyw heb y ddeddf: ond pan ddaeth y gorchymyn, yr adfywiodd pechod, a minnau a fûm farw.
10 A'r gorchymyn, yr hwn ydoedd i fywyd, hwnnw a gaed i mi i farwolaeth.
11 Canys pechod, wedi cymryd achlysur trwy'r gorchymyn, a'm twyllodd i; a thrwy hwnnw a'm lladdodd.
12 Felly yn wir y mae'r ddeddf yn sanctaidd; a'r gorchymyn yn sanctaidd, ac yn gyfiawn, ac yn dda.
13 Gan hynny a wnaethpwyd y peth oedd dda, yn farwolaeth i mi? Na ato Duw. Eithr pechod, fel yr ymddangosai yn bechod, gan weithio marwolaeth ynof fi trwy'r hyn sydd dda: fel y byddai pechod trwy'r gorchymyn yn dra phechadurus.
14 Canys ni a wyddom fod y ddeddf yn ysbrydol: eithr myfi sydd gnawdol, wedi fy ngwerthu dan bechod.