1 Nid oes gan hynny yn awr ddim damnedigaeth i'r rhai sydd yng Nghrist Iesu, y rhai sydd yn rhodio nid yn ôl y cnawd, eithr yn ôl yr Ysbryd.
2 Canys deddf Ysbryd y bywyd yng Nghrist Iesu a'm rhyddhaodd i oddi wrth ddeddf pechod a marwolaeth.
3 Canys yr hyn ni allai'r ddeddf, oherwydd ei bod yn wan trwy y cnawd, Duw a ddanfonodd ei Fab ei hun yng nghyffelybiaeth cnawd pechadurus, ac am bechod a gondemniodd bechod yn y cnawd:
4 Fel y cyflawnid cyfiawnder y ddeddf ynom ni, y rhai ydym yn rhodio, nid yn ôl y cnawd, eithr yn ôl yr Ysbryd.