23 Ac nid yn unig y creadur, ond ninnau hefyd, y rhai sydd gennym flaenffrwyth yr Ysbryd: yr ydym ninnau ein hunain hefyd yn ocheneidio ynom ein hunain, gan ddisgwyl y mabwysiad, sef prynedigaeth ein corff.
24 Canys trwy obaith y'n hiachawyd. Eithr y gobaith a welir, nid yw obaith: oblegid y peth y mae un yn ei weled, i ba beth y mae eto yn ei obeithio?
25 Ond os ydym ni yn gobeithio'r hyn nid ŷm yn ei weled, yr ydym trwy amynedd yn disgwyl amdano.
26 A'r un ffunud y mae'r Ysbryd hefyd yn cynorthwyo ein gwendid ni. Canys ni wyddom ni beth a weddïom, megis y dylem: eithr y mae'r Ysbryd ei hun yn erfyn trosom ni ag ocheneidiau anhraethadwy.
27 A'r hwn sydd yn chwilio'r calonnau, a ŵyr beth yw meddwl yr Ysbryd; canys y mae efe yn ôl ewyllys Duw yn erfyn dros y saint.
28 Ac ni a wyddom fod pob peth yn cydweithio er daioni i'r rhai sydd yn caru Duw; sef i'r rhai sydd wedi eu galw yn ôl ei arfaeth ef.
29 Oblegid y rhai a ragwybu, a ragluniodd efe hefyd i fod yn un ffurf â delw ei Fab ef; fel y byddai efe yn gyntaf‐anedig ymhlith brodyr lawer.