27 A'r hwn sydd yn chwilio'r calonnau, a ŵyr beth yw meddwl yr Ysbryd; canys y mae efe yn ôl ewyllys Duw yn erfyn dros y saint.
28 Ac ni a wyddom fod pob peth yn cydweithio er daioni i'r rhai sydd yn caru Duw; sef i'r rhai sydd wedi eu galw yn ôl ei arfaeth ef.
29 Oblegid y rhai a ragwybu, a ragluniodd efe hefyd i fod yn un ffurf â delw ei Fab ef; fel y byddai efe yn gyntaf‐anedig ymhlith brodyr lawer.
30 A'r rhai a ragluniodd efe, y rhai hynny hefyd a alwodd efe; a'r rhai a alwodd efe, y rhai hynny hefyd a gyfiawnhaodd efe; a'r rhai a gyfiawnhaodd efe, y rhai hynny hefyd a ogoneddodd efe.
31 Beth gan hynny a ddywedwn ni wrth y pethau hyn? Os yw Duw trosom, pwy a all fod i'n herbyn?
32 Yr hwn nid arbedodd ei briod Fab, ond a'i traddododd ef trosom ni oll; pa wedd gydag ef hefyd na ddyry efe i ni bob peth;
33 Pwy a rydd ddim yn erbyn etholedigion Duw? Duw yw'r hwn sydd yn cyfiawnhau: