3 Bob blwyddyn byddai Elcana yn mynd i Seilo i addoli a cyflwyno aberthau i'r ARGLWYDD holl-bwerus. Yr offeiriaid yno oedd Hoffni a Phineas, meibion Eli.
4 Pan fyddai Elcana yn aberthu byddai'n arfer rhoi cyfran o'r cig bob un i Penina a'i meibion a'i merched i gyd.
5 Ond byddai'n rhoi cyfran sbesial i Hanna, am ei fod yn ei charu, er fod Duw wedi ei rhwystro hi rhag cael plant.
6 Roedd Penina yn arfer herian Hanna yn arw a'i phryfocio am ei bod yn methu cael plant.
7 Yr un peth oedd yn digwydd bob blwyddyn pan oedden nhw'n mynd i gysegr yr ARGLWYDD. Byddai Penina yn pryfocio Hanna nes ei bod yn crïo ac yn gwrthod bwyta.
8 A byddai Elcana yn dweud wrthi, “Hanna, pam wyt ti'n crïo a ddim yn bwyta? Pam wyt ti mor ddigalon? Ydw i ddim yn well na deg mab i ti?”
9 Un tro, ar ôl iddyn nhw orffen bwyta ac yfed yn Seilo, dyma Hanna'n codi a mynd i weddïo. (Roedd Eli'r offeiriad yn eistedd ar gadair wrth ddrws y deml ar y pryd.)