1 Samuel 11 BNET

Saul yn trechu byddin Ammon

1 Dyma Nachash, brenin Ammon, yn arwain ei fyddin i ymosod ar dref Jabesh yn Gilead. Dyma ddynion Jabesh yn dweud wrth Nachash, “Gwna gytundeb â ni, a down ni'n weision i ti.”

2 Dyma Nachash yn ateb, “Gwna i gytundeb â chi, ond bydd rhaid tynnu allan llygad dde pob un ohonoch chi. Fel yna bydda i yn codi cywilydd ar Israel gyfan.”

3 Dyma arweinwyr Jabesh yn dweud wrtho, “Gad lonydd i ni am wythnos, i ni gael anfon negeswyr i bobman yn Israel. Os fydd neb yn barod i ddod i'n hachub ni, byddwn ni'n ildio i ti.”

4 Pan ddaeth y negeswyr i Gibea (lle roedd Saul yn byw) a dweud beth oedd yn digwydd dyma'r bobl i gyd yn dechrau crïo'n uchel.

5 Ar y pryd roedd Saul ar ei ffordd adre o'r caeau gyda'i ychen. “Be sy'n bod?” meddai. “Pam mae pawb yn crïo?” A dyma nhw'n dweud am neges pobl Jabesh wrtho.

6 Pan glywodd Saul hyn, dyma Ysbryd Duw yn dod arno'n rymus. Roedd wedi gwylltio'n lân.

7 Dyma fe'n lladd pâr o ychen a'u torri nhw'n ddarnau mân, ac anfon negeswyr gyda'r darnau i bob ardal yn Israel. Roedden nhw i fod i gyhoeddi: “Pwy bynnag sy'n gwrthod cefnogi Saul a Samuel a dod allan i ymladd, dyma fydd yn digwydd i'w ychen e!” Roedd yr ARGLWYDD wedi codi ofn ar bawb, felly dyma nhw'n dod allan fel un dyn.

8 Pan wnaeth Saul eu cyfri nhw yn Besec, roedd yna 300,000 o ddynion o Israel a 30,000 o Jwda.

9 Dyma nhw'n dweud wrth y negeswyr oedd wedi dod o Jabesh, “Dwedwch wrth bobl Jabesh yn Gilead, ‘Erbyn canol dydd fory, byddwch wedi'ch achub.’” Pan aeth y negeswyr a dweud hyn wrth bobl Jabesh, roedden nhw wrth eu boddau.

10 Felly dyma nhw'n dweud wrth Nachash, “Yfory byddwn ni'n dod allan atoch chi, a cewch wneud fel y mynnoch hefo ni.”

11 Y noson honno dyma Saul yn rhannu'r dynion yn dair mintai. Dyma nhw'n mynd i mewn i wersyll byddin Ammon cyn iddi wawrio, a buon nhw'n taro byddin Ammon tan ganol dydd. Roedd y rhai oedd yn dal yn fyw ar chwâl, pob un ohonyn nhw ar ei ben ei hun.

12 Yna dyma'r bobl yn gofyn i Samuel, “Ble mae'r rhai oedd yn dweud, ‘Fydd Saul yn frenin arnon ni?’ Dewch â nhw yma. Maen nhw'n haeddu marw!”

13 Ond dyma Saul yn dweud, “Does neb i gael ei ladd heddiw. Mae'n ddiwrnod pan mae'r ARGLWYDD wedi rhoi buddugoliaeth i Israel!”

14 “Dewch,” meddai Samuel, “gadewch i ni fynd i Gilgal, a sefydlu'r frenhiniaeth yno eto.”

15 Felly dyma'r bobl i gyd yn mynd i Gilgal a gwneud Saul yn frenin yno o flaen yr ARGLWYDD. Yna dyma nhw'n cyflwyno offrymau i gydnabod daioni'r ARGLWYDD. Roedd Saul a pobl Israel i gyd yn dathlu yno.

Penodau

1 2 3 4 5 6 7 8 9 10 11 12 13 14 15 16 17 18 19 20 21 22 23 24 25 26 27 28 29 30 31