1 Samuel 24 BNET

Dafydd yn arbed bywyd Saul

1 Pan ddaeth Saul yn ôl ar ôl bod yn ymladd yn erbyn y Philistiaid dyma nhw'n dweud wrtho fod Dafydd yn anialwch En-gedi.

2 Dewisodd Saul dair mil o filwyr gorau Israel, a mynd i Greigiau'r Geifr Gwyllt i chwilio am Dafydd.

3 Ar y ffordd, wrth ymyl corlannau'r defaid, roedd yna ogof. Roedd Saul eisiau mynd i'r tŷ bach, felly aeth i mewn i'r ogof. Roedd Dafydd a'i ddynion yn cuddio ym mhen draw'r ogof ar y pryd.

4 A dyma'r dynion yn dweud wrth Dafydd, “Dyma ti'r diwrnod y dwedodd yr ARGLWYDD wrthot ti amdano, ‘Bydda i'n rhoi dy elyn yn dy afael, a chei wneud fel y mynni gydag e.’” A dyma Dafydd a mynd draw yn ddistaw bach, a thorri cornel mantell Saul i ffwrdd.

5 Ond wedyn roedd ei gydwybod yn ei boeni am ei fod wedi torri cornel mantell Saul.

6 Meddai wrth ei ddynion, “Ddylwn i ddim bod wedi gwneud y fath beth. Sut allwn i wneud dim yn erbyn fy meistr? Fe ydy'r brenin wedi ei eneinio gan yr ARGLWYDD.”

7 A dyma Dafydd yn rhwystro ei ddynion rhag ymosod ar Saul. Felly dyma Saul yn mynd allan o'r ogof ac ymlaen ar ei ffordd.

8 Yna dyma Dafydd yn mynd allan a gweiddi ar ei ôl, “Fy mrenin! Meistr!” Trodd Saul rownd i edrych, a dyma Dafydd yn ymgrymu iddo â'i wyneb ar lawr.

9 A dyma Dafydd yn gofyn i Saul, “Pam wyt ti'n gwrando ar y straeon fy mod i eisiau gwneud niwed i ti?

10 Rwyt ti wedi gweld drosot dy hun heddiw fod Duw wedi dy roi di yn fy ngafael i pan oeddet ti yn yr ogof. Roedd rhai yn annog fi i dy ladd di, ond wnes i ddim codi llaw yn erbyn fy meistr. Ti ydy'r un mae'r ARGLWYDD wedi ei eneinio'n frenin!

11 Edrych, syr. Ie, edrych – dyma gornel dy fantell di yn fy llaw i. Gwnes i dorri cornel dy fantell di, ond wnes i ddim dy ladd di. Dw i eisiau i ti ddeall nad ydw i'n gwrthryfela, nac yn bwriadu dim drwg i ti. Dw i ddim wedi gwneud cam â thi er dy fod ti ar fy ôl i yn ceisio fy lladd i.

12 Caiff yr ARGLWYDD farnu rhyngon ni'n dau. Caiff e ddial arnat ti, ond wna i ddim dy gyffwrdd di.

13 Fel mae'r hen ddihareb yn dweud, ‘O'r rhai drwg y daw drygioni.’ Wna i ddim drwg i ti.

14 Ar ôl pwy mae brenin Israel wedi dod allan? Pwy wyt ti'n ceisio'i ddal? Dw i'n neb. Ci marw ydw i! Chwannen!

15 Boed i'r ARGLWYDD farnu rhyngon ni'n dau. Bydd e'n ystyried yr achos ac yn dadlau o'm plaid i. Bydd e'n fy achub i o dy afael di!”

16 Ar ôl i Dafydd ddweud hyn, dyma Saul yn ei ateb, “Ai ti sydd yna go iawn, Dafydd, machgen i?” A dyma fe'n dechrau crïo'n uchel.

17 Yna dyma fe'n dweud, “Ti'n well dyn na fi. Ti wedi bod yn dda ata i er fy mod i wedi ceisio gwneud drwg i ti.

18 Ti wedi dangos hynny heddiw drwy fod yn garedig ata i. Roedd yr ARGLWYDD wedi rhoi'r cyfle i ti fy lladd i, ond wnest ti ddim.

19 Pan mae dyn yn dod o hyd i'w elyn, ydy e'n ei ollwng e'n rhydd? Boed i'r ARGLWYDD fod yn dda atat ti am beth wnest ti i mi heddiw.

20 Gwranda, dw i'n gwybod yn iawn mai ti fydd yn frenin, a bydd teyrnas Israel yn llwyddo yn dy law di.

21 Addo i mi, o flaen yr ARGLWYDD, na fyddi di'n lladd fy mhlant i gyd, a gadael neb i gario enw'r teulu yn ei flaen.”

22 Ar ôl i Dafydd addo hynny ar lw i Saul, dyma Saul yn mynd adre, a dyma Dafydd a'i ddynion yn mynd yn ôl i fyny i'w guddfan.

Penodau

1 2 3 4 5 6 7 8 9 10 11 12 13 14 15 16 17 18 19 20 21 22 23 24 25 26 27 28 29 30 31