1 Samuel 31 BNET

Saul a'i feibion yn marw

1 Dyma'r Philistiaid yn dod i ryfela yn erbyn Israel. Roedd rhaid i filwyr Israel ffoi o flaen y Philistiaid a syrthiodd llawer ohonyn nhw'n farw ar fynydd Gilboa.

2 Roedd y Philistiaid reit tu ôl i Saul a'i feibion, a dyma nhw'n llwyddo i ladd ei feibion, Jonathan, Abinadab a Malci-shwa.

3 Roedd y frwydr yn ffyrnig o gwmpas Saul, a dyma'r bwasaethwyr yn ei daro'n ddifrifol a'i anafu'n ddrwg.

4 Yna dyma Saul yn dweud wrth y gwas oedd yn cario'i arfau, “Cymer dy gleddyf a thrywana fi. Paid gadael i'r paganiaid yma ddod i'm cam-drin i a'm lladd i.” Ond roedd gan y gwas ofn gwneud hynny. Felly dyma Saul yn cymryd y cleddyf ac yn syrthio arno.

5 Pan welodd y gwas fod Saul wedi marw, dyma fe hefyd yn syrthio ar ei gleddyf a marw gydag e.

6 Felly cafodd Saul a tri o'i feibion, y gwas oedd yn cario ei arfau a'i filwyr i gyd eu lladd y diwrnod hwnnw.

7 Dyma bobl Israel oedd yr ochr draw i'r dyffryn, a'r tu draw i'r Iorddonen, yn clywed fod milwyr Israel wedi ffoi, a bod Saul a'i feibion wedi cael eu lladd. Felly dyma nhw'n gadael eu trefi a ffoi. A dyma'r Philistiaid yn dod i fyw ynddyn nhw.

8 Y diwrnod ar ôl y frwydr dyma'r Philistiaid yn dod i ddwyn oddi ar y cyrff meirw. A dyma nhw'n dod o hyd i Saul a'i dri mab yn gorwedd yn farw ar fynydd Gilboa.

9 Dyma nhw'n torri pen Saul i ffwrdd a chymryd ei arfau, ac anfon negeswyr drwy wlad y Philistiaid i gyhoeddi'r newyddion da yn nhemlau eu duwiau ac wrth y bobl.

10 Wedyn dyma nhw'n rhoi arfau Saul yn nheml y dduwies Ashtart, ac yn crogi ei gorff ar waliau Beth-shan.

11 Pan glywodd pobl Jabesh yn Gilead beth roedd y Philistiaid wedi ei wneud i Saul,

12 dyma'r milwyr i gyd yn mynd allan a teithio drwy'r nos. Dyma nhw'n cymryd cyrff Saul a'i feibion oddi ar waliau Beth-shan, mynd â nhw i Jabesh a'u llosgi yno.

13 Wedyn dyma nhw'n cymryd yr esgyrn a'u claddu o dan y goeden tamarisg yn Jabesh, ac ymprydio am wythnos.

Penodau

1 2 3 4 5 6 7 8 9 10 11 12 13 14 15 16 17 18 19 20 21 22 23 24 25 26 27 28 29 30 31