1 Dyma'r ARGLWYDD yn gofyn i Samuel, “Am faint wyt ti'n mynd i ddal i deimlo'n drist am Saul? Dw i wedi ei wrthod e fel brenin ar Israel. Llenwa gorn gydag olew olewydd a dos i Bethlehem at ddyn o'r enw Jesse. Dw i wedi dewis un o'i feibion e i fod yn frenin i mi.”
2 Atebodd Samuel, “Sut alla i wneud hynny? Os bydd Saul yn clywed am y peth bydd e'n fy lladd i!”“Dos â heffer gyda ti,” meddai'r ARGLWYDD, “a dweud, ‘Dw i'n mynd i aberthu i'r ARGLWYDD.’
3 Gwahodd Jesse i'r aberth, a gwna i ddangos i ti pa un o'i feibion i'w eneinio gyda'r olew.”
4 Gwnaeth Samuel fel roedd Duw wedi dweud, a mynd i Fethlehem. Ond roedd arweinwyr y dre yn nerfus iawn pan welon nhw e. Dyma nhw'n gofyn iddo, “Wyt ti'n dod yn heddychlon?”
5 “Ydw”, meddai Samuel, “yn heddychlon. Dw i'n dod i aberthu i'r ARGLWYDD. Ewch trwy'r ddefod o buro eich hunain, a dewch gyda mi i'r aberth.” Yna dyma fe'n arwain Jesse a'i feibion drwy'r ddefod o gysegru eu hunain, a'i gwahodd nhw i'r aberth.
6 Pan gyrhaeddon nhw, sylwodd Samuel ar Eliab a meddwl, “Dw i'n siŵr mai hwnna ydy'r un mae'r ARGLWYDD wedi ei ddewis yn frenin.”
7 Ond dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrtho, “Paid cymryd sylw o pa mor olygus ydy e neu pa mor dal ydy e. Dw i ddim wedi ei ddewis e. Dydy Duw ddim yn edrych ar bethau yr un fath ac mae pobl. Mae pobl yn edrych ar y tu allan, ond mae'r ARGLWYDD yn edrych ar sut berson ydy e go iawn.”
8 Yna dyma Jesse yn galw Abinadab, i Samuel gael ei weld e. Ond dyma Samuel yn dweud, “Dim hwn mae'r ARGLWYDD wedi ei ddewis chwaith.”
9 Felly dyma Jesse yn dod â Shamma ato. Ond dyma Samuel yn dweud, “Dim hwn mae'r ARGLWYDD wedi ei ddewis chwaith.”
10 Dyma Jesse'n dod â saith o'i feibion at Samuel yn eu tro. Ond dyma Samuel yn dweud wrtho, “Dydy'r ARGLWYDD ddim wedi dewis run o'r rhain.”
11 Dyma Samuel yn holi Jesse, “Ai dyma dy fechgyn di i gyd?”“Na,” meddai Jesse, “Mae'r lleiaf ar ôl. Mae e'n gofalu am y defaid.”“Anfon rhywun i'w nôl e,” meddai Samuel. “Wnawn ni ddim byd arall nes bydd e wedi cyrraedd.”
12 Felly dyma Jesse'n anfon amdano. Roedd yn fachgen iach yr olwg gyda llygaid hardd – bachgen golygus iawn. A dyma'r ARGLWYDD yn dweud, “Tyrd! Hwn ydy e! Eneinia fe â'r olew.”
13 Felly dyma Samuel yn tywallt yr olew ar ben Dafydd o flaen ei frodyr i gyd. Daeth Ysbryd yr ARGLWYDD yn rymus ar Dafydd o'r diwrnod hwnnw ymlaen.Wedyn dyma Samuel yn mynd yn ôl adre i Rama.
14 Roedd Ysbryd yr ARGLWYDD wedi gadael Saul. A dyma'r ARGLWYDD yn anfon ysbryd drwg i'w boeni.
15 Dyma ei swyddogion yn dweud wrtho, “Mae'n amlwg fod Duw wedi anfon ysbryd drwg i dy boeni di.
16 Syr, beth am i ni, dy weision, fynd i chwilio am rywun sy'n canu'r delyn yn dda? Wedyn, pan fydd Duw yn anfon yr ysbryd drwg arnat ti, bydd e'n canu'r delyn ac yn gwneud i ti deimlo'n well.”
17 Felly dyma Saul yn ateb, “Iawn, ewch i ffeindio rhywun sy'n canu'r delyn yn dda, a dewch ag e yma.”
18 Dyma un o'r dynion ifanc yn dweud, “Dw i'n gwybod am fab i Jesse o Fethlehem sy'n dda ar y delyn. Mae e'n filwr dewr, yn siaradwr da, mae'n fachgen golygus ac mae'r ARGLWYDD gydag e.”
19 Dyma Saul yn anfon neges at Jesse, “Anfon dy fab Dafydd ata i, yr un sydd gyda'r defaid.”
20 Felly dyma Jesse'n llwytho asyn gyda bara, potel groen yn llawn o win, a gafr ifanc, a'u hanfon gyda'i fab Dafydd at Saul.
21 Daeth Dafydd i weithio i Saul. Roedd Saul yn ei hoffi'n fawr, a rhoddodd y cyfrifoldeb o gario'i arfau iddo.
22 Yna dyma Saul yn anfon at Jesse i ofyn, “Gad i Dafydd aros yma i fod yn was i mi. Dw i'n hapus iawn gydag e.”
23 Felly, pan fyddai Duw yn anfon ysbryd drwg ar Saul, byddai Dafydd yn nôl ei delyn a'i chanu. Byddai hynny'n tawelu Saul a gwneud iddo deimlo'n well. Yna byddai'r ysbryd drwg yn gadael llonydd iddo.