1 Samuel 29 BNET

Y Philistiaid yn gwrthod help Dafydd

1 Roedd byddin y Philistiaid wedi casglu at ei gilydd yn Affec, ac roedd Israel wedi codi gwersyll wrth y ffynnon yn Jesreel.

2 Roedd llywodraethwyr y Philistiaid yn archwilio eu hunedau milwrol (unedau o gannoedd a miloedd). Yn y cefn roedd Dafydd a'i ddynion yn cael eu harchwilio gydag unedau Achis.

3 “Pwy ydy'r Hebreaid yma?” holodd capteiniaid y Philistiaid. “Dafydd ydy e wrth gwrs,” meddai Achis wrthyn nhw. “Roedd yn arfer bod yn was i Saul, brenin Israel. Ond mae e wedi bod gyda mi bellach ers blwyddyn a mwy. Dydy e wedi gwneud dim o'i le o'r diwrnod y daeth e drosodd aton ni.”

4 Ond roedd capteiniaid y Philistiaid yn wyllt hefo Achis, “Anfon y dyn yn ei ôl! Gad iddo fynd yn ôl i ble bynnag roist ti iddo fyw. Paid gadael iddo ddod i ymladd gyda ni, rhag ofn iddo droi yn ein herbyn ni yng nghanol y frwydr. Pa ffordd well fyddai iddo ennill ffafr ei feistr eto na gyda pennau'r dynion yma?

5 Onid hwn ydy'r Dafydd roedden nhw'n canu amdano wrth ddawnsio,‘Mae Saul wedi lladd miloedd,ond Dafydd ddegau o filoedd’?”

6 Felly dyma Achis yn galw Dafydd ato a dweud, “Mor siŵr â bod yr ARGLWYDD yn fyw, dw i'n gwybod dy fod ti'n ddyn gonest. Byddwn i wrth fy modd yn dy gael di'n mynd allan gyda ni i ymladd. Dwyt ti wedi gwneud dim o'i le o'r diwrnod y dest ti drosodd aton ni. Ond dydy'r arweinwyr eraill ddim yn hapus.

7 Felly, dos yn ôl heb wneud ffws. Paid gwneud dim byd i'w pechu nhw.”

8 “Ond be dw i wedi ei wneud o'i le?” meddai Dafydd. “O'r diwrnod y dois i atat ti hyd heddiw, pa fai wyt ti wedi ei gael yn dy was? Pam ga i ddim dod i ryfela yn erbyn gelynion fy meistr, y brenin?”

9 Dyma Achis yn ateb, “Dw i'n gwybod dy fod ti mor ddibynnol ag angel Duw! Ond mae arweinwyr eraill y Philistiaid wedi dweud na chei di fynd i ryfela gyda nhw.

10 Felly, coda'n gynnar bore fory, ti a gweision dy feistr sydd gyda ti. Gallwch fynd cyn gynted ag y bydd hi'n olau.”

11 Dyma Dafydd a'i ddynion yn codi ben bore, a mynd yn ôl i wlad y Philistiaid. Ac aeth y Philistiaid i fyny i Jesreel.

Penodau

1 2 3 4 5 6 7 8 9 10 11 12 13 14 15 16 17 18 19 20 21 22 23 24 25 26 27 28 29 30 31