12 A dyma un dyn lleol yn ateb “Ydy e o bwys pwy ydy eu tad nhw?” A dyna lle dechreuodd y dywediad, “Ydy Saul yn un o'r proffwydi?”
13 Ar ôl gorffen proffwydo, dyma Saul yn mynd at yr allor leol.
14 Gofynnodd ei ewythr iddo fe a'i was, “Ble dych chi wedi bod?”“I chwilio am yr asennod,” meddai Saul. “Ac am ein bod yn methu eu ffeindio nhw aethon ni at Samuel.”
15 “A be ddwedodd Samuel wrthoch chi?” meddai'r ewythr.
16 “Dweud wrthon ni eu bod nhw wedi ffeindio'r asennod,” meddai Saul. Ond ddwedodd e ddim gair am beth oedd Samuel wedi ei ddweud wrtho am fod yn frenin.
17 Dyma Samuel yn galw'r bobl at ei gilydd i Mitspa i gyfarfod yr ARGLWYDD.
18 Dwedodd wrth bobl Israel, “Dyma mae'r ARGLWYDD, Duw Israel, yn ei ddweud: ‘Des i ag Israel allan o'r Aifft. Gwnes i'ch achub chi o afael yr Eifftiaid a'r gwledydd eraill i gyd oedd yn eich gormesu chi.