14 Gofynnodd ei ewythr iddo fe a'i was, “Ble dych chi wedi bod?”“I chwilio am yr asennod,” meddai Saul. “Ac am ein bod yn methu eu ffeindio nhw aethon ni at Samuel.”
15 “A be ddwedodd Samuel wrthoch chi?” meddai'r ewythr.
16 “Dweud wrthon ni eu bod nhw wedi ffeindio'r asennod,” meddai Saul. Ond ddwedodd e ddim gair am beth oedd Samuel wedi ei ddweud wrtho am fod yn frenin.
17 Dyma Samuel yn galw'r bobl at ei gilydd i Mitspa i gyfarfod yr ARGLWYDD.
18 Dwedodd wrth bobl Israel, “Dyma mae'r ARGLWYDD, Duw Israel, yn ei ddweud: ‘Des i ag Israel allan o'r Aifft. Gwnes i'ch achub chi o afael yr Eifftiaid a'r gwledydd eraill i gyd oedd yn eich gormesu chi.
19 Ond erbyn hyn dych chi wedi gwrthod eich Duw sydd wedi'ch achub chi o bob drwg a helynt. Dych chi wedi dweud, “Na! Rho frenin i ni.”’“Felly nawr,” meddai Samuel, “dw i eisiau i chi sefyll o flaen yr ARGLWYDD bob yn llwyth a theulu.”
20 A dyma fe'n dod â pob un o lwythau Israel o flaen Duw yn eu tro. Dyma lwyth Benjamin yn cael ei ddewis.