15 “A be ddwedodd Samuel wrthoch chi?” meddai'r ewythr.
16 “Dweud wrthon ni eu bod nhw wedi ffeindio'r asennod,” meddai Saul. Ond ddwedodd e ddim gair am beth oedd Samuel wedi ei ddweud wrtho am fod yn frenin.
17 Dyma Samuel yn galw'r bobl at ei gilydd i Mitspa i gyfarfod yr ARGLWYDD.
18 Dwedodd wrth bobl Israel, “Dyma mae'r ARGLWYDD, Duw Israel, yn ei ddweud: ‘Des i ag Israel allan o'r Aifft. Gwnes i'ch achub chi o afael yr Eifftiaid a'r gwledydd eraill i gyd oedd yn eich gormesu chi.
19 Ond erbyn hyn dych chi wedi gwrthod eich Duw sydd wedi'ch achub chi o bob drwg a helynt. Dych chi wedi dweud, “Na! Rho frenin i ni.”’“Felly nawr,” meddai Samuel, “dw i eisiau i chi sefyll o flaen yr ARGLWYDD bob yn llwyth a theulu.”
20 A dyma fe'n dod â pob un o lwythau Israel o flaen Duw yn eu tro. Dyma lwyth Benjamin yn cael ei ddewis.
21 Wedyn daeth â llwyth Benjamin ymlaen fesul clan. A dyma glan Matri yn cael ei ddewis. Ac yn y diwedd dyma Saul fab Cish yn cael ei ddewis.Roedden nhw'n chwilio amdano ond yn methu dod o hyd iddo.