2 Wrth i ti adael heddiw byddi'n cyfarfod dau ddyn wrth ymyl bedd Rachel, yn Seltsach ar ffin Benjamin. Byddan nhw'n dweud: ‘Mae'r asennod wyt ti wedi bod yn chwilio amdanyn nhw wedi dod i'r golwg. Dydy dy dad ddim yn poeni amdanyn nhw bellach. Poeni amdanoch chi mae e, a gofyn, “Be ddylwn i ei wneud am fy mab?”’
3 “Byddi'n mynd yn dy flaen wedyn, a dod at dderwen Tabor, lle byddi'n cyfarfod tri dyn ar eu ffordd i addoli Duw yn Bethel – un yn cario tair gafr ifanc, un arall yn cario tair torth o fara, a'r olaf yn cario potel groen o win.
4 Byddan nhw'n dy gyfarch ac yn rhoi dwy dorth i ti. Cymer nhw ganddyn nhw.
5 “Wedyn, dos ymlaen i Gibeath Elohîm lle mae garsiwn milwrol gan y Philistiaid. Wrth i ti gyrraedd y dre, byddi'n cyfarfod criw o broffwydi yn dod i lawr o'r allor leol ar y bryn. Bydd nabl, drwm, pib a thelyn yn mynd o'u blaenau nhw, a hwythau'n dilyn ac yn proffwydo.
6 A bydd Ysbryd yr ARGLWYDD yn dod yn rymus arnat tithau, a byddi'n proffwydo gyda nhw. Byddi fel person gwahanol.
7 “Pan fydd yr arwyddion yma i gyd wedi digwydd gwna beth bynnag sydd angen ei wneud, achos mae Duw gyda ti.
8 “Wedyn dos i Gilgal. Bydda i'n dod yno atat ti i gyflwyno offrymau i'w llosgi ac offrymau i gydnabod daioni'r ARGLWYDD. Aros amdana i am wythnos, a bydda i'n dod i ddangos i ti be i'w wneud nesaf.”