24 A dyma Samuel yn dweud wrth y bobl, “Ydych chi'n gweld y dyn mae'r ARGLWYDD wedi ei ddewis i chi? Does neb tebyg iddo.” A dyma'r bobl i gyd yn gweiddi, “Hir oes i'r brenin!”
25 Wedyn dyma Samuel yn esbonio i'r bobl yr holl drefn o gael brenin, a'i ysgrifennu mewn sgrôl. Cafodd honno ei chadw o flaen yr ARGLWYDD. Wedyn dyma Samuel yn anfon y bobl i gyd adre.
26 Aeth Saul adre hefyd, i Gibea. A dyma ddynion dewr oedd wedi eu cyffwrdd gan Dduw yn mynd gydag e.
27 Ond roedd yna rai eraill, rhyw ddynion da i ddim, yn dweud, “Sut all hwn ein hachub ni?” Roedden nhw'n ei wfftio, a ddaethon nhw ddim ag anrheg iddo. Ond ddwedodd Saul ddim byd am y peth.