7 “Pan fydd yr arwyddion yma i gyd wedi digwydd gwna beth bynnag sydd angen ei wneud, achos mae Duw gyda ti.
8 “Wedyn dos i Gilgal. Bydda i'n dod yno atat ti i gyflwyno offrymau i'w llosgi ac offrymau i gydnabod daioni'r ARGLWYDD. Aros amdana i am wythnos, a bydda i'n dod i ddangos i ti be i'w wneud nesaf.”
9 Wrth i Saul droi i ffwrdd i adael Samuel dyma Duw yn newid ei agwedd yn llwyr. A dyma'r arwyddion i gyd yn digwydd y diwrnod hwnnw.
10 Pan gyrhaeddodd Saul a'i was Gibea dyma griw o broffwydi yn dod i'w cyfarfod nhw. A dyma Ysbryd yr ARGLWYDD yn dod ar Saul, a dechreuodd broffwydo gyda nhw.
11 Pan welodd pawb oedd yn ei nabod Saul yn proffwydo gyda'r proffwydi, dyma nhw'n dweud wrth ei gilydd, “Be yn y byd sydd wedi digwydd i fab Cish? Ydy Saul hefyd yn un o'r proffwydi?”
12 A dyma un dyn lleol yn ateb “Ydy e o bwys pwy ydy eu tad nhw?” A dyna lle dechreuodd y dywediad, “Ydy Saul yn un o'r proffwydi?”
13 Ar ôl gorffen proffwydo, dyma Saul yn mynd at yr allor leol.