8 “Wedyn dos i Gilgal. Bydda i'n dod yno atat ti i gyflwyno offrymau i'w llosgi ac offrymau i gydnabod daioni'r ARGLWYDD. Aros amdana i am wythnos, a bydda i'n dod i ddangos i ti be i'w wneud nesaf.”
9 Wrth i Saul droi i ffwrdd i adael Samuel dyma Duw yn newid ei agwedd yn llwyr. A dyma'r arwyddion i gyd yn digwydd y diwrnod hwnnw.
10 Pan gyrhaeddodd Saul a'i was Gibea dyma griw o broffwydi yn dod i'w cyfarfod nhw. A dyma Ysbryd yr ARGLWYDD yn dod ar Saul, a dechreuodd broffwydo gyda nhw.
11 Pan welodd pawb oedd yn ei nabod Saul yn proffwydo gyda'r proffwydi, dyma nhw'n dweud wrth ei gilydd, “Be yn y byd sydd wedi digwydd i fab Cish? Ydy Saul hefyd yn un o'r proffwydi?”
12 A dyma un dyn lleol yn ateb “Ydy e o bwys pwy ydy eu tad nhw?” A dyna lle dechreuodd y dywediad, “Ydy Saul yn un o'r proffwydi?”
13 Ar ôl gorffen proffwydo, dyma Saul yn mynd at yr allor leol.
14 Gofynnodd ei ewythr iddo fe a'i was, “Ble dych chi wedi bod?”“I chwilio am yr asennod,” meddai Saul. “Ac am ein bod yn methu eu ffeindio nhw aethon ni at Samuel.”