8 Aeth Jacob i lawr i'r Aifft. Ond ar ôl hynny dyma'ch hynafiaid yn gweiddi ar yr ARGLWYDD am help am fod yr Eifftiaid yn eu cam-drin nhw. Anfonodd yr ARGLWYDD Moses ac Aaron i'w harwain nhw allan o'r Aifft i'r lle yma.
9 Ond dyma nhw'n anghofio'r ARGLWYDD eu Duw. Felly dyma Duw yn gadael i Sisera, capten byddin Chatsor, a'r Philistiaid, a brenin Moab eu cam-drin nhw. Daeth y rhain i ryfela yn eu herbyn nhw.
10 Felly dyma nhw'n gweiddi ar yr ARGLWYDD eto, a dweud: ‘Ein bai ni ydy hyn. Dŷn ni wedi troi cefn arnat ti ARGLWYDD ac wedi mynd i addoli eilunod Baal a delwau o'r dduwies Ashtart. Plîs achub ni nawr o afael ein gelynion a byddwn ni'n dy addoli di.’
11 Felly dyma'r ARGLWYDD yn anfon Gideon, Barac, Jefftha a fi, Samuel, i'ch achub chi oddi wrth y gelynion o'ch cwmpas, fel eich bod chi'n saff.
12 “Ond pan welsoch chi fod Nachash, brenin Ammon, yn mynd i ymosod arnoch chi, dyma chi'n dweud wrtho i, ‘Na! Dŷn ni eisiau brenin’ – pan oedd yr ARGLWYDD eich Duw i fod yn frenin arnoch chi!
13 Felly dyma chi! Dyma'r brenin dych chi wedi ei ddewis, yr un wnaethoch chi ofyn amdano! Ydy, mae'r ARGLWYDD wedi rhoi brenin i chi!
14 “Os gwnewch chi barchu'r ARGLWYDD a'i addoli e, gwrando arno a pheidio gwrthryfela yn ei erbyn, ac os gwnewch chi a'ch brenin ddilyn yr ARGLWYDD eich Duw, bydd popeth yn iawn.