1 Does neb yn siŵr beth oedd oed Saul pan ddaeth yn frenin. Ar ôl bod yn frenin ar Israel am ddwy flynedd
2 dyma fe'n dewis tair mil o ddynion Israel i fod yn ei fyddin. Roedd dwy fil o'r dynion i aros gydag e yn Michmas a bryniau Bethel, a'r mil arall i fynd gyda Jonathan i Gibea ar dir llwyth Benjamin. Anfonodd bawb arall yn ôl adre.
3 Clywodd y Philistiaid fod Jonathan wedi ymosod ar eu garsiwn milwrol yn Geba. Felly dyma Saul yn anfon negeswyr i bob rhan o'r wlad i chwythu'r corn hwrdd a galw pobl i ryfel, a dweud, “Chi Hebreaid, gwrandwch yn astud!”
4 Yna clywodd pawb yn Israel fod Saul wedi taro garsiwn milwrol y Philistiaid, a bod y Philistiaid yn ffieiddio pobl Israel. Felly dyma'r bobl yn cael eu galw i ymuno â byddin Saul yn Gilgal.
5 Yn y cyfamser roedd y Philistiaid yn paratoi i ymosod ar Israel. Roedden nhw wedi casglu tair mil o gerbydau rhyfel, chwe mil o farchogion a gormod o filwyr traed i'w cyfrif, ac wedi codi gwersyll yn Michmas i'r dwyrain o Beth-afen.
6 Pan welodd byddin Israel mor ddrwg oedd hi arnyn nhw, dyma nhw'n colli pob hyder a mynd i guddio mewn ogofâu, drysni, yn y creigiau ac mewn pydewau.