6 Pan welodd byddin Israel mor ddrwg oedd hi arnyn nhw, dyma nhw'n colli pob hyder a mynd i guddio mewn ogofâu, drysni, yn y creigiau ac mewn pydewau.
7 Roedd rhai wedi dianc dros yr Afon Iorddonen i ardal Gad a Gilead. Ond arhosodd Saul yn Gilgal, er fod y fyddin oedd gydag e i gyd wedi dychryn am eu bywydau.
8 Roedd Saul wedi aros am wythnos fel roedd Samuel wedi gofyn iddo wneud. Ond ddaeth Samuel ddim, a dechreuodd y dynion ei adael e.
9 Felly dyma Saul yn dweud, “Dewch a'r anifeiliaid sydd i'w haberthu yma – y rhai sydd i'w llosgi a'r rhai sy'n offrwm i ofyn am fendith yr ARGLWYDD.” A dyma fe'n aberthu i Dduw.
10 Roedd e newydd orffen llosgi'r aberth pan ddaeth Samuel i'r golwg. A dyma Saul yn mynd allan i'w gyfarfod a'i gyfarch.
11 Ond dyma Samuel yn gofyn iddo, “Be wyt ti wedi ei wneud?” Atebodd Saul, “Roedd y dynion yn dechrau gadael. Doeddet ti ddim wedi dod fel roedden ni wedi trefnu, ac roedd y Philistiaid yn casglu at ei gilydd yn Michmas.
12 Roedd gen i ofn y bydden nhw'n ymosod arna i yn Gilgal, a finnau heb ofyn i Dduw am help. Felly doedd gen i ddim dewis ond mynd ati i losgi'r aberth.”