7 Roedd rhai wedi dianc dros yr Afon Iorddonen i ardal Gad a Gilead. Ond arhosodd Saul yn Gilgal, er fod y fyddin oedd gydag e i gyd wedi dychryn am eu bywydau.
8 Roedd Saul wedi aros am wythnos fel roedd Samuel wedi gofyn iddo wneud. Ond ddaeth Samuel ddim, a dechreuodd y dynion ei adael e.
9 Felly dyma Saul yn dweud, “Dewch a'r anifeiliaid sydd i'w haberthu yma – y rhai sydd i'w llosgi a'r rhai sy'n offrwm i ofyn am fendith yr ARGLWYDD.” A dyma fe'n aberthu i Dduw.
10 Roedd e newydd orffen llosgi'r aberth pan ddaeth Samuel i'r golwg. A dyma Saul yn mynd allan i'w gyfarfod a'i gyfarch.
11 Ond dyma Samuel yn gofyn iddo, “Be wyt ti wedi ei wneud?” Atebodd Saul, “Roedd y dynion yn dechrau gadael. Doeddet ti ddim wedi dod fel roedden ni wedi trefnu, ac roedd y Philistiaid yn casglu at ei gilydd yn Michmas.
12 Roedd gen i ofn y bydden nhw'n ymosod arna i yn Gilgal, a finnau heb ofyn i Dduw am help. Felly doedd gen i ddim dewis ond mynd ati i losgi'r aberth.”
13 “Ti wedi gwneud peth gwirion,” meddai Samuel wrtho. “Dylet ti fod wedi gwneud beth ddwedodd yr ARGLWYDD wrthot ti. Petaet ti wedi bod yn ufudd byddai'r ARGLWYDD wedi cadw'r olyniaeth frenhinol yn dy deulu di am byth.