1 Un diwrnod dyma Jonathan, mab Saul, yn dweud wrth y gwas oedd yn cario ei arfau, “Tyrd, gad i ni groesi drosodd i wersyll y Philistiaid.” Ond ddwedodd e ddim am y peth wrth ei dad.
2 Roedd Saul yn eistedd o dan y goeden pomgranadau sydd wrth ymyl Migron ar gyrion Gibea. Roedd tua chwe chant o ddynion gydag e,
3 ac Achïa oedd yn cario'r effod. (Roedd Achïa yn fab i Achitwf brawd Ichabod a mab Phineas fab Eli oedd yn arfer bod yn offeiriad yn Seilo.) Doedd neb o'r fyddin yn gwybod fod Jonathan wedi mynd.
4 Roedd clogwyni uchel bob ochr i'r bwlch roedd Jonathan yn anelu ato i fynd at wersyll y Philistiaid. Enwau'r clogwyni oedd Botsets a Senne.
5 Roedd un i'r gogledd ar ochr Michmas, a'r llall i'r de ar ochr Geba.