12 Gwaeddodd y dynion oedd yn gwylio ar Jonathan a'i gludwr arfau, “Dewch i fyny yma i ni ddysgu gwers i chi!” A dyma Jonathan yn dweud wrth ei was, “Dilyn fi, achos mae'r ARGLWYDD yn mynd i roi buddugoliaeth i Israel.”
13 Dyma Jonathan yn dringo i fyny ar ei bedwar, a'r gwas oedd yn cario'i arfau ar ei ôl. Roedd Jonathan yn taro'r gwylwyr i lawr, a'i was yn ei ddilyn a'i lladd nhw.
14 Yn yr ymosodiad cyntaf yma, lladdodd Jonathan a'i was tua dau ddeg o ddynion mewn llai na can llath.
15 Yna roedd yna ddaeargryn, a dyma banig llwyr yn dod dros fyddin y Philistiaid – yn y gwersyll, allan ar y maes, y fintai i gyd a'r grwpiau oedd wedi mynd allan i ymosod ar Israel. Duw oedd wedi achosi'r panig yma.
16 Roedd gan Saul wylwyr yn Gibea yn Benjamin, a dyma nhw'n gweld milwyr y Philistiaid yn dyrfa yn diflannu i bob cyfeiriad.
17 “Galwch y milwyr at ei gilydd i weld pwy sydd ar goll,” meddai Saul. A pan wnaethon nhw hynny dyma nhw'n ffeindio fod Jonathan a'r gwas oedd yn cario'i arfau ddim yno.
18 Felly dyma Saul yn dweud wrth Achïa'r offeiriad, “Tyrd â'r Arch yma.” (Roedd Arch Duw allan gyda byddin Israel ar y pryd.)