18 Felly dyma Saul yn dweud wrth Achïa'r offeiriad, “Tyrd â'r Arch yma.” (Roedd Arch Duw allan gyda byddin Israel ar y pryd.)
19 Ond tra roedd Saul yn siarad â'r offeiriad, roedd y panig yng ngwersyll y Philistiaid yn mynd o ddrwg i waeth. Felly dyma Saul yn dweud wrtho, “Anghofia hi.”
20 A dyma Saul yn galw ei fyddin at ei gilydd a mynd allan i'r frwydr.Roedd byddin y Philistiaid mewn anhrefn llwyr. Dyna lle roedden nhw yn lladd ei gilydd!
21 Roedd yr Hebreaid hynny oedd wedi ymuno â byddin y Philistiaid cyn hyn wedi troi i ymladd ar ochr yr Israeliaid oedd gyda Saul a Jonathan.
22 Ac wedyn, pan glywodd yr Israeliaid oedd wedi bod yn cuddio ym mryniau Effraim fod y Philistiaid yn ffoi, dyma nhw hefyd yn mynd ar eu holau.
23 A dyma'r brwydro yn lledu tu draw i Beth-afen.Yr ARGLWYDD wnaeth achub Israel y diwrnod hwnnw.
24 Ond roedd byddin Israel wedi llwyr ymlâdd y diwrnod hwnnw, am fod Saul wedi gwneud iddyn nhw dyngu llw a dweud, “Melltith ar unrhyw un fydd yn bwyta unrhyw beth cyn iddi nosi – cyn i mi ddial ar fy ngelynion.” Felly doedd neb wedi bwyta o gwbl.