43 Dyma Saul yn gofyn i Jonathan, “Dywed wrtho i be wnest ti.” A dyma Jonathan yn ateb, “Blasu mymryn o fêl ar flaen fy ffon. Dyma fi, oes rhaid i mi farw?”
44 A dyma Saul yn cyhoeddi, “Ar fy llw o flaen Duw, rhaid i Jonathan farw neu bydd Duw'n ein cosbi ni'n waeth fyth.”
45 Ond dyma'r milwyr yn ateb, “Pam ddylai Jonathan farw? Mae e wedi ennill buddugoliaeth fawr i Israel heddiw. Mor sicr â bod yr ARGLWYDD yn fyw ddylai dim byd ddigwydd iddo. Roedd e'n gweithio gyda Duw heddiw.” Felly dyma'r milwyr yn achub Jonathan, a chafodd fyw.
46 Wedi hynny dyma Saul yn rhoi'r gorau i fynd ar ôl y Philistiaid, a dyma nhw'n mynd yn ôl i'w gwlad eu hunain.
47 Pan oedd Saul yn frenin ar Israel aeth i ryfel yn erbyn y gelynion oedd o'i gwmpas i gyd: Moab, yr Ammoniaid, Edom, brenhinoedd Soba yn Syria, a'r Philistiaid. Roedd e'n ennill bob tro.
48 Roedd e'n arwr. Tarodd yr Amaleciaid ac achub Israel o afael pawb oedd yn ymosod arnyn nhw.
49 Enwau Meibion Saul oedd Jonathan, Ishfi a Malci-shwa. Roedd ganddo ddwy ferch, Merab, yr hynaf a Michal yr ifancaf.