47 Pan oedd Saul yn frenin ar Israel aeth i ryfel yn erbyn y gelynion oedd o'i gwmpas i gyd: Moab, yr Ammoniaid, Edom, brenhinoedd Soba yn Syria, a'r Philistiaid. Roedd e'n ennill bob tro.
48 Roedd e'n arwr. Tarodd yr Amaleciaid ac achub Israel o afael pawb oedd yn ymosod arnyn nhw.
49 Enwau Meibion Saul oedd Jonathan, Ishfi a Malci-shwa. Roedd ganddo ddwy ferch, Merab, yr hynaf a Michal yr ifancaf.
50 Enw gwraig Saul oedd Achinoam (merch Achimaats). Cefnder Saul, Abner fab Ner, oedd pennaeth ei fyddin.
51 (Roedd Cish tad Saul, a Ner tad Abner yn feibion i Abiel).
52 Roedd yna ryfela ffyrnig yn erbyn y Philistiaid yr holl amser roedd Saul yn frenin. Felly pan fyddai Saul yn gweld unrhyw un oedd yn gryf a dewr, byddai'n ei gonscriptio i'w fyddin.