7 A dyma'i was yn ateb, “Gwna beth bynnag wyt ti eisiau. Dos amdani. Bydda i gyda ti bob cam.”
8 Meddai Jonathan, “Dyma be wnawn ni. Awn ni drosodd at y dynion a gadael iddyn nhw ein gweld ni.
9 Os dwedan nhw ‘Arhoswch yna nes i ni ddod atoch chi,’ gwnawn ni aros lle rydyn ni.
10 Ond os dwedan nhw, ‘Dewch i fyny yma,’ awn ni atyn nhw. Bydd hynny'n arwydd fod yr ARGLWYDD yn eu rhoi nhw yn ein gafael ni.”
11 Felly dyma'r ddau'n mynd, a dangos eu hunain i fyddin y Philistiaid. A dyma'r rheiny yn dweud, “Edrychwch! Mae'r Hebreaid yn dod allan o'r tyllau lle maen nhw wedi bod yn cuddio!”
12 Gwaeddodd y dynion oedd yn gwylio ar Jonathan a'i gludwr arfau, “Dewch i fyny yma i ni ddysgu gwers i chi!” A dyma Jonathan yn dweud wrth ei was, “Dilyn fi, achos mae'r ARGLWYDD yn mynd i roi buddugoliaeth i Israel.”
13 Dyma Jonathan yn dringo i fyny ar ei bedwar, a'r gwas oedd yn cario'i arfau ar ei ôl. Roedd Jonathan yn taro'r gwylwyr i lawr, a'i was yn ei ddilyn a'i lladd nhw.