13 Pan ddaeth Samuel o hyd i Saul, dyma Saul yn dweud wrtho, “Bendith yr ARGLWYDD arnat i. Dw i wedi gwneud popeth ddwedodd yr ARGLWYDD.”
14 Ond dyma Samuel yn dweud, “Os felly, beth ydy sŵn y defaid a'r gwartheg yna dw i'n ei glywed?”
15 Atebodd Saul, “Y milwyr wnaeth eu cymryd nhw oddi ar yr Amaleciaid. Maen nhw wedi cadw'r defaid a'r gwartheg gorau i'w haberthu i'r ARGLWYDD dy Dduw. Mae popeth arall wedi cael ei ddinistrio.”
16 Ond dyma Samuel yn dweud wrth Saul, “Taw, i mi gael dweud wrthot ti beth ddwedodd Duw wrtho i neithiwr.”“Dywed wrtho i,” meddai Saul.
17 Ac meddai Samuel, “Pan oeddet ti'n meddwl dy fod ti'n neb o bwys, cest ti dy wneud yn arweinydd ar lwythau Israel. Dewisodd yr ARGLWYDD di yn frenin ar Israel.
18 Wedyn dyma fe'n dy anfon di allan a dweud, ‘Dos i ddinistrio'r Amaleciaid drwg yna. Ymladd yn eu herbyn nhw a dinistria nhw'n llwyr.’
19 Felly pam wnest ti ddim gwrando? Yn lle hynny, dyma ti'n rhuthro ar yr ysbail i gael be fedret ti i ti dy hun. Ti wedi gwneud drwg yng ngolwg yr ARGLWYDD.”