2 Dyma mae'r ARGLWYDD holl-bwerus yn ei ddweud: ‘Dw i am gosbi'r Amaleciaid am be wnaethon nhw i bobl Israel, sef gwrthod gadael iddyn nhw basio pan oedden nhw ar ei ffordd o'r Aifft.
3 Felly dos i daro'r Amaleciaid. Dinistriwch nhw'n llwyr, a llosgi eu heiddo. Peidiwch teimlo trueni drostyn nhw. Lladdwch nhw i gyd – yn ddynion a merched, plant a babis bach, gwartheg a defaid, camelod ag asynnod.’”
4 Felly dyma Saul yn galw'r fyddin at ei gilydd a'i cyfri nhw yn Telaïm. Daeth 200,000 o filwyr traed a 10,000 o ddynion o Jwda.
5 Aeth Saul a'i fyddin i gyfeiriad y trefi lle roedd yr Amaleciaid yn byw, a chuddio yn y sychnant yn barod i ymosod.
6 Wedyn anfonodd neges at y Ceneaid, “Ewch i ffwrdd o'r ardal. Peidiwch aros gyda'r Amaleciaid, rhag i chi gael eich difa gyda nhw. Buoch chi'n garedig wrth bobl Israel pan oedden nhw'n dod o'r Aifft.” Felly dyma'r Ceneaid yn gadael yr Amaleciaid.
7 Yna dyma Saul yn ymosod ar yr Amaleciaid a'u taro o Hafila yr holl ffordd i Shwr sydd wrth ymyl yr Aifft.
8 Cafodd Agag, brenin yr Amaleciaid, ei ddal yn fyw, ond cafodd ei bobl i gyd eu lladd â'r cleddyf.