21 Cymerodd y fyddin y defaid a'r gwartheg gorau i'w haberthu nhw i'r ARGLWYDD dy Dduw yma yn Gilgal!”
22 Yna dyma Samuel yn dweud,“Beth sy'n rhoi mwya o bleser i'r ARGLWYDD?Aberth ac offrwm i'w losgi, neu wneud beth mae e'n ddweud?Mae gwrando yn well nag aberth;mae talu sylw yn well na brasder hyrddod.
23 Mae gwrthryfela yn bechod, fel dablo mewn dewiniaeth,ac mae anufudd-dod mor ddrwg ac addoli eilunod.Am dy fod wedi gwrthod gwrando ar yr ARGLWYDDmae e wedi dy wrthod di fel brenin.”
24 Dyma Saul yn cyfaddef i Samuel, “Dw i wedi pechu. Dw i wedi bod yn anufudd i'r ARGLWYDD a gwrthod gwrando arnat ti. Roedd gen i ofn y milwyr, a dyma fi'n gwneud beth oedden nhw eisiau.
25 Plîs maddau i mi. Tyrd yn ôl hefo fi, i mi gael addoli'r ARGLWYDD.”
26 “Na,” meddai Samuel, “wna i ddim mynd yn ôl hefo ti. Ti wedi gwrthod gwrando ar yr ARGLWYDD ac mae e wedi dy wrthod di yn frenin ar Israel.”
27 Wrth i Samuel droi i adael, dyma Saul yn gafael yn ymyl ei fantell, a dyma hi'n rhwygo.