24 Dyma Saul yn cyfaddef i Samuel, “Dw i wedi pechu. Dw i wedi bod yn anufudd i'r ARGLWYDD a gwrthod gwrando arnat ti. Roedd gen i ofn y milwyr, a dyma fi'n gwneud beth oedden nhw eisiau.
25 Plîs maddau i mi. Tyrd yn ôl hefo fi, i mi gael addoli'r ARGLWYDD.”
26 “Na,” meddai Samuel, “wna i ddim mynd yn ôl hefo ti. Ti wedi gwrthod gwrando ar yr ARGLWYDD ac mae e wedi dy wrthod di yn frenin ar Israel.”
27 Wrth i Samuel droi i adael, dyma Saul yn gafael yn ymyl ei fantell, a dyma hi'n rhwygo.
28 Dyma Samuel yn dweud wrtho, “Mae'r ARGLWYDD wedi rhwygo'r deyrnas oddi arnat ti heddiw, a'i rhoi hi i rywun arall gwell na ti.
29 Dydy Un Godidog Israel, ddim yn dweud celwydd nac yn newid ei feddwl. Dydy e ddim fel person dynol sy'n newid ei feddwl o hyd.”
30 “Dw i wedi pechu”, meddai Saul eto. “Ond plîs dangos barch ata i o flaen arweinwyr a phobl Israel. Tyrd yn ôl hefo fi, i mi gael addoli'r ARGLWYDD dy Dduw.”