30 “Dw i wedi pechu”, meddai Saul eto. “Ond plîs dangos barch ata i o flaen arweinwyr a phobl Israel. Tyrd yn ôl hefo fi, i mi gael addoli'r ARGLWYDD dy Dduw.”
31 Felly aeth Samuel yn ôl gyda Saul, a dyma Saul yn addoli'r ARGLWYDD.
32 Yna dyma Samuel yn dweud, “Dewch ag Agag, brenin yr Amaleciaid, ata i.” Daeth Agag ato yn ansicr a nerfus, gan feddwl, “Wnân nhw ddim fy lladd i bellach, siawns?”
33 Ond dyma Samuel yn dweud, “Fel gwnaeth dy gleddyf di adael gwragedd heb blant, bydd dy fam di yn galaru nawr.” A dyma fe'n hacio Agag i farwolaeth o flaen yr ARGLWYDD yn Gilgal.
34 Wedyn aeth Samuel yn ôl i Rama, a Saul adre i Gibea
35 Wnaeth Samuel ddim gweld Saul byth wedyn. Ond roedd yn dal i deimlo mor drist amdano. Roedd yr ARGLWYDD, ar y llaw arall, yn sori ei fod wedi gwneud Saul yn frenin ar Israel.