1 Dyma'r ARGLWYDD yn gofyn i Samuel, “Am faint wyt ti'n mynd i ddal i deimlo'n drist am Saul? Dw i wedi ei wrthod e fel brenin ar Israel. Llenwa gorn gydag olew olewydd a dos i Bethlehem at ddyn o'r enw Jesse. Dw i wedi dewis un o'i feibion e i fod yn frenin i mi.”
2 Atebodd Samuel, “Sut alla i wneud hynny? Os bydd Saul yn clywed am y peth bydd e'n fy lladd i!”“Dos â heffer gyda ti,” meddai'r ARGLWYDD, “a dweud, ‘Dw i'n mynd i aberthu i'r ARGLWYDD.’
3 Gwahodd Jesse i'r aberth, a gwna i ddangos i ti pa un o'i feibion i'w eneinio gyda'r olew.”
4 Gwnaeth Samuel fel roedd Duw wedi dweud, a mynd i Fethlehem. Ond roedd arweinwyr y dre yn nerfus iawn pan welon nhw e. Dyma nhw'n gofyn iddo, “Wyt ti'n dod yn heddychlon?”
5 “Ydw”, meddai Samuel, “yn heddychlon. Dw i'n dod i aberthu i'r ARGLWYDD. Ewch trwy'r ddefod o buro eich hunain, a dewch gyda mi i'r aberth.” Yna dyma fe'n arwain Jesse a'i feibion drwy'r ddefod o gysegru eu hunain, a'i gwahodd nhw i'r aberth.
6 Pan gyrhaeddon nhw, sylwodd Samuel ar Eliab a meddwl, “Dw i'n siŵr mai hwnna ydy'r un mae'r ARGLWYDD wedi ei ddewis yn frenin.”