15 byddai Dafydd yn mynd yn ôl a blaen rhwng gwasanaethu Saul ac edrych ar ôl defaid ei dad yn Bethlehem.
16 (Yn y cyfamser roedd y Philistiad yn dod allan i herio byddin Israel bob dydd, fore a nos. Gwnaeth hyn am bedwar deg diwrnod.)
17 Un diwrnod dyma Jesse yn dweud wrth Dafydd, “Brysia draw i'r gwersyll at dy frodyr. Dos â sachaid o rawn wedi ei grasu a deg torth iddyn nhw.
18 A cymer y deg darn yma o gaws i'w roi i'r capten. Ffeindia allan sut mae pethau'n mynd, a tyrd â rhywbeth yn ôl i brofi eu bod nhw'n iawn.”
19 Roedden nhw gyda Saul a byddin Israel yn Nyffryn Ela yn ymladd y Philistiaid.
20 Cododd Dafydd ben bore a gadael y defaid yng ngofal rhywun arall. Llwythodd ei bac a mynd fel roedd Jesse wedi dweud wrtho. Dyma fe'n cyrraedd y gwersyll wrth i'r fyddin fynd allan i'w rhengoedd yn barod i ymladd, ac yn gweiddi “I'r gâd!”
21 Roedd yr Israeliaid a'r Philistiaid yn wynebu ei gilydd yn eu rhengoedd.