18 A cymer y deg darn yma o gaws i'w roi i'r capten. Ffeindia allan sut mae pethau'n mynd, a tyrd â rhywbeth yn ôl i brofi eu bod nhw'n iawn.”
19 Roedden nhw gyda Saul a byddin Israel yn Nyffryn Ela yn ymladd y Philistiaid.
20 Cododd Dafydd ben bore a gadael y defaid yng ngofal rhywun arall. Llwythodd ei bac a mynd fel roedd Jesse wedi dweud wrtho. Dyma fe'n cyrraedd y gwersyll wrth i'r fyddin fynd allan i'w rhengoedd yn barod i ymladd, ac yn gweiddi “I'r gâd!”
21 Roedd yr Israeliaid a'r Philistiaid yn wynebu ei gilydd yn eu rhengoedd.
22 Dyma Dafydd yn gadael y pac oedd ganddo gyda'r swyddog cyfarpar, a rhedeg i ganol y rhengoedd at ei frodyr i holi eu hanes.
23 Tra roedd e'n siarad â nhw, dyma Goliath (y Philistiad o Gath) yn dod allan o rengoedd y Philistiaid, a dechrau bygwth yn ôl ei arfer. A clywodd Dafydd e.
24 Pan welodd milwyr Israel e, dyma nhw i gyd yn cilio'n ôl; roedd ganddyn nhw ei ofn go iawn.