19 Roedden nhw gyda Saul a byddin Israel yn Nyffryn Ela yn ymladd y Philistiaid.
20 Cododd Dafydd ben bore a gadael y defaid yng ngofal rhywun arall. Llwythodd ei bac a mynd fel roedd Jesse wedi dweud wrtho. Dyma fe'n cyrraedd y gwersyll wrth i'r fyddin fynd allan i'w rhengoedd yn barod i ymladd, ac yn gweiddi “I'r gâd!”
21 Roedd yr Israeliaid a'r Philistiaid yn wynebu ei gilydd yn eu rhengoedd.
22 Dyma Dafydd yn gadael y pac oedd ganddo gyda'r swyddog cyfarpar, a rhedeg i ganol y rhengoedd at ei frodyr i holi eu hanes.
23 Tra roedd e'n siarad â nhw, dyma Goliath (y Philistiad o Gath) yn dod allan o rengoedd y Philistiaid, a dechrau bygwth yn ôl ei arfer. A clywodd Dafydd e.
24 Pan welodd milwyr Israel e, dyma nhw i gyd yn cilio'n ôl; roedd ganddyn nhw ei ofn go iawn.
25 Roedden nhw'n dweud wrth ei gilydd, “Ydych chi wedi gweld y dyn yma sy'n dod i fyny? Mae'n gwneud hyn i wawdio bobl Israel. Mae'r brenin wedi addo arian mawr i bwy bynnag sy'n ei ladd e. Bydd e'n cael priodi merch y brenin, a fydd teulu ei dad byth yn gorfod talu trethi eto.”