28 Dyma Eliab, ei frawd hynaf, yn clywed Dafydd yn siarad â'r dynion o'i gwmpas. Roedd wedi gwylltio gyda Dafydd ac meddai, “Pam ddest ti i lawr yma? Pwy sy'n gofalu am yr ychydig ddefaid yna yn yr anialwch i ti? Dw i'n dy nabod di y cenau drwg! Dim ond wedi dod i lawr i weld y frwydr wyt ti.”
29 “Be dw i wedi ei wneud nawr?” meddai Dafydd. “Dim ond holi oeddwn i.”
30 A dyma fe'n troi oddi wrtho a gofyn yr un peth eto i rywun arall. A chafodd yr un ateb ag o'r blaen.
31 Roedd yna rai wedi sylwi ar y diddordeb roedd Dafydd yn ei ddangos, a dyma nhw'n mynd i ddweud wrth Saul. A dyma Dafydd yn cael ei alw ato.
32 Dyma Dafydd yn dweud wrth Saul, “Does dim rhaid i neb ddigalonni, syr. Dw i'n barod i ymladd y Philistiad yna!”
33 “Alli di ddim ymladd yn ei erbyn e!” meddai Saul. “Dim ond bachgen wyt ti! Mae e wedi bod yn filwr ar hyd ei oes!”
34 Atebodd Dafydd, “Bugail ydw i, syr, yn gofalu am ddefaid fy nhad. Weithiau bydd llew neu arth yn dod a chymryd oen o'r praidd.