34 Atebodd Dafydd, “Bugail ydw i, syr, yn gofalu am ddefaid fy nhad. Weithiau bydd llew neu arth yn dod a chymryd oen o'r praidd.
35 Bydda i'n rhedeg ar ei ôl, ei daro i lawr, ac achub yr oen o'i geg. Petai'n ymosod arna i, byddwn i'n gafael ynddo gerfydd ei wddf, ei daro, a'i ladd.
36 Syr, dw i wedi lladd llew ac arth. A bydda i'n gwneud yr un fath i'r pagan o Philistiad yma, am ei fod wedi herio byddin y Duw byw!
37 Bydd yr ARGLWYDD, wnaeth fy achub i rhag y llew a'r arth, yn fy achub i o afael y Philistiad yma hefyd!”Felly dyma Saul yn dweud, “Iawn, dos di. A'r ARGLWYDD fo gyda ti.”
38 Yna dyma Saul yn rhoi ei arfwisg e'i hun i Dafydd ei gwisgo – helmed bres ar ei ben, a'i arfwisg bres amdano.
39 Wedyn dyma Dafydd yn rhwymo cleddyf Saul am ei ganol a cheisio cerdded. Ond roedd e'n methu. “Alla i ddim cerdded yn y rhain,” meddai fe wrth Saul. “Dw i ddim wedi arfer gyda nhw.” Felly tynnodd nhw i ffwrdd.
40 Gafaelodd yn ei ffon fugail, dewisodd bum carreg lefn o'r sychnant a'u rhoi yn ei fag bugail. Yna aeth i wynebu'r Philistiad gyda'i ffon dafl yn ei law.