42 Pan welodd e Dafydd roedd e'n wfftio am mai bachgen oedd e – bachgen ifanc, golygus, iach yr olwg.
43 A dyma fe'n dweud wrth Dafydd, “Wyt ti'n meddwl mai ci ydw i, dy fod yn dod allan yn fy erbyn i â ffyn?” Ac roedd e'n rhegi Dafydd yn enw ei dduwiau,
44 a gweiddi, “Tyrd yma i mi gael dy roi di'n fwyd i'r adar a'r anifeiliaid gwylltion!”
45 Ond dyma Dafydd yn ei ateb e, “Rwyt ti'n dod yn fy erbyn i gyda gwaywffon a chleddyf, ond dw i'n dod yn dy erbyn di ar ran yr ARGLWYDD holl-bwerus! Fe ydy Duw byddin Israel, yr un wyt ti'n ei herio.
46 Heddiw bydd yr ARGLWYDD yn dy roi di yn fy llaw i. Dw i'n mynd i dy ladd di a torri dy ben di i ffwrdd! Cyrff byddin y Philistiaid fydd yn fwyd i'r adar a'r anifeiliaid gwylltion! Bydd y wlad i gyd yn cael gwybod heddiw fod gan Israel Dduw.
47 A bydd pawb sydd yma yn dod i weld fod yr ARGLWYDD ddim yn achub gyda chleddyf a gwaywffon. Brwydr yr ARGLWYDD ydy hon. Bydd e'n eich rhoi chi yn ein gafael ni.”
48 Dyma'r Philistiad yn symud yn nes at Dafydd i ymosod arno. A dyma Dafydd yn rhedeg at y rhengoedd i'w gyfarfod.