49 Rhoddodd ei law yn ei fag, cymryd carreg allan a'i hyrddio at y Philistiad gyda'i ffon dafl. Tarodd y garreg Goliath ar ei dalcen a suddo i mewn nes iddo syrthio ar ei wyneb ar lawr.
50 (Dyna sut wnaeth Dafydd guro'r Philistiad gyda ffon-dafl a charreg. Doedd ganddo ddim cleddyf hyd yn oed!)
51 Rhedodd Dafydd a sefyll uwch ei ben. Wedyn dyma fe'n tynnu cleddyf y Philistiad allan o'r wain, ei ladd, a torri ei ben i ffwrdd.Pan welodd y Philistiaid fod eu harwr wedi ei ladd, dyma nhw'n ffoi.
52 A dyma fyddin Israel a Jwda yn rhuthro ymlaen gan weiddi “I'r gâd!”, a mynd ar ôl y Philistiaid ar hyd y dyffryn nes cyrraedd giatiau tref Ecron. Roedd cyrff y Philistiaid yn gorwedd ar hyd y ffordd o Shaaraim i Gath ac Ecron.
53 Pan ddaeth dynion Israel yn ôl wedi'r ymlid gwyllt ar ôl y Philistiaid dyma nhw'n ysbeilio'u gwersyll.
54 (Aeth Dafydd â pen y Philistiad i Jerwsalem, ond cadwodd ei arfau yn ei babell.)
55 Pan welodd Saul Dafydd yn mynd allan i gyfarfod y Philistiad, gofynnodd i Abner, capten y fyddin, “Mab i bwy ydy'r bachgen acw, Abner?” “Dw i wir ddim yn gwybod, syr,” atebodd Abner.