1 Ar ôl siarad â Saul dyma Dafydd yn cyfarfod Jonathan, ei fab, a daeth y ddau yn ffrindiau gorau. Roedd Jonathan yn caru Dafydd fwy na fe ei hun.
2 O'r diwrnod hwnnw ymlaen dyma Saul yn cadw Dafydd gydag e, a chafodd e ddim mynd adre at ei dad.
3 Roedd Jonathan a Dafydd wedi ymrwymo i fod yn ffyddlon i'w gilydd. Roedd Jonathan yn caru Dafydd fwy na fe ei hun.
4 Tynnodd ei fantell a'i rhoi am Dafydd, a'i grys hefyd, a hyd yn oed ei gleddyf, ei fwa a'i felt.