11 a dyma fe'n taflu'r waywffon at Dafydd. “Mi hoelia i e i'r wal,” meddyliodd. Digwyddodd hyn ddwywaith, ond llwyddodd Dafydd i'w osgoi.
12 Roedd y sefyllfa'n codi ofn ar Saul, am fod yr ARGLWYDD gyda Dafydd, ond wedi ei adael e.
13 Felly dyma Saul yn anfon Dafydd i ffwrdd a'i wneud yn gapten ar uned o fil o filwyr. Dafydd oedd yn arwain y fyddin allan i frwydro.
14 Roedd yn llwyddo beth bynnag roedd e'n ei wneud, am fod yr ARGLWYDD gydag e.
15 Pan welodd Saul sut roedd e'n llwyddo roedd yn ei ofni e fwy fyth.
16 Ond roedd pobl Israel a Jwda i gyd wrth eu boddau gyda Dafydd, am mai fe oedd yn arwain y fyddin.
17 Yna dyma Saul yn dweud wrth Dafydd, “Dyma Merab, fy merch hynaf i. Cei di ei phriodi hi os gwnei di ymladd brwydrau'r ARGLWYDD yn ddewr.” (Syniad Saul oedd, “Fydd dim rhaid i mi ei ladd e, bydd y Philistiaid yn gwneud hynny i mi!”)