16 Ond roedd pobl Israel a Jwda i gyd wrth eu boddau gyda Dafydd, am mai fe oedd yn arwain y fyddin.
17 Yna dyma Saul yn dweud wrth Dafydd, “Dyma Merab, fy merch hynaf i. Cei di ei phriodi hi os gwnei di ymladd brwydrau'r ARGLWYDD yn ddewr.” (Syniad Saul oedd, “Fydd dim rhaid i mi ei ladd e, bydd y Philistiaid yn gwneud hynny i mi!”)
18 “Pwy ydw i, i gael bod yn fab-yng-nghyfraith i'r brenin?” meddai Dafydd. “Dw i ddim yn dod o deulu digon pwysig.”
19 Ond wedyn, pan ddaeth hi'n amser i roi Merab yn wraig i Dafydd, dyma Saul yn ei rhoi hi i Adriel o Mechola.
20 Roedd Michal, merch arall Saul, wedi syrthio mewn cariad â Dafydd. Pan glywodd Saul am y peth roedd wrth ei fodd.
21 Meddyliodd, “Gwna i ei rhoi hi i Dafydd, a bydd hi fel trap iddo, wedyn bydd e'n cael ei ladd gan y Philistiaid.” Felly dyma fe'n dweud wrth Dafydd am yr ail waith, “Cei di fod yn fab-yng-nghyfraith i mi.”
22 Dyma Saul yn cael ei swyddogion i ddweud yn ddistaw bach wrth Dafydd, “Ti'n dipyn o ffefryn gan y brenin, ac yn boblogaidd ymhlith y swyddogion i gyd hefyd. Dylet ti briodi ei ferch e.”