19 Ond wedyn, pan ddaeth hi'n amser i roi Merab yn wraig i Dafydd, dyma Saul yn ei rhoi hi i Adriel o Mechola.
20 Roedd Michal, merch arall Saul, wedi syrthio mewn cariad â Dafydd. Pan glywodd Saul am y peth roedd wrth ei fodd.
21 Meddyliodd, “Gwna i ei rhoi hi i Dafydd, a bydd hi fel trap iddo, wedyn bydd e'n cael ei ladd gan y Philistiaid.” Felly dyma fe'n dweud wrth Dafydd am yr ail waith, “Cei di fod yn fab-yng-nghyfraith i mi.”
22 Dyma Saul yn cael ei swyddogion i ddweud yn ddistaw bach wrth Dafydd, “Ti'n dipyn o ffefryn gan y brenin, ac yn boblogaidd ymhlith y swyddogion i gyd hefyd. Dylet ti briodi ei ferch e.”
23 Pan gawson nhw air yn ei glust, ymateb Dafydd oedd, “Sut ydych chi'n meddwl mae rhywun fel fi'n mynd i allu priodi merch y brenin? Dw i'n rhy dlawd! Dw i ddim digon pwysig!”
24 Pan aeth y swyddogion i ddweud wrth Saul beth oedd ymateb Dafydd,
25 dyma Saul yn dweud wrthyn nhw, “Dwedwch wrth Dafydd mai'r unig dâl mae'r brenin eisiau am gael priodi ei ferch ydy'r blaengrwyn cant o Philistiaid! Mae e eisiau dial ar ei elynion.” (Gobaith Saul oedd y byddai Dafydd yn cael ei ladd gan y Philistiaid.)