25 dyma Saul yn dweud wrthyn nhw, “Dwedwch wrth Dafydd mai'r unig dâl mae'r brenin eisiau am gael priodi ei ferch ydy'r blaengrwyn cant o Philistiaid! Mae e eisiau dial ar ei elynion.” (Gobaith Saul oedd y byddai Dafydd yn cael ei ladd gan y Philistiaid.)
26 Felly dyma'r swyddogion yn mynd i ddweud hyn wrth Dafydd. A cymrodd Dafydd fod hyn yn golygu y gallai briodi merch y brenin. Cyn ei bod yn rhy hwyr
27 dyma Dafydd a'i filwyr yn mynd allan ac yn ymosod ar y Philistiaid a lladd dau gant ohonyn nhw. Daeth â'r blaengroen oddi ar bidyn pob un ohonyn nhw, a'u rhoi i'r brenin yn dâl am gael priodi ei ferch. Felly dyma Saul yn gadael iddo briodi Michal ei ferch.
28 Roedd hi'n gwbl amlwg i Saul fod yr ARGLWYDD gyda Dafydd, a bod ei ferch, Michal, yn ei garu.
29 Felly roedd yn ofni Dafydd fwy fyth. Dyma Saul yn troi yn hollol erbyn Dafydd am weddill ei fywyd.
30 Bob tro y byddai arweinwyr y Philistiaid yn dod allan i ymladd, byddai Dafydd yn fwy llwyddiannus yn eu herbyn nac unrhyw un o arweinwyr eraill byddin Saul. Daeth Dafydd yn enwog iawn.