1 Dyma Saul yn cyfadde i'w fab Jonathan, a'i swyddogion i gyd, ei fod eisiau lladd Dafydd. Ond roedd Jonathan yn hoff iawn iawn o Dafydd.
2 Felly dyma Jonathan yn dweud wrth Dafydd, “Mae fy nhad Saul eisiau dy ladd di. Felly gwylia dy hun bore fory. Dos i guddio yn rhywle ac aros yno o'r golwg.
3 Gwna i fynd allan a sefyll gyda dad yn agos i lle byddi di. Gwna i siarad gydag e ar dy ran di, a gweld beth fydd ei ymateb e. Gwna i adael i ti wybod.”
4 Felly dyma Jonathan yn siarad ar ran Dafydd gyda Saul, ei dad. Dwedodd wrtho, “Paid gwneud cam â dy was Dafydd, achos dydy e erioed wedi gwneud dim byd yn dy erbyn di. Mae popeth mae e wedi ei wneud wedi bod yn dda i ti.
5 Mentrodd ei fywyd i ladd y Philistiad yna, a rhoddodd yr ARGLWYDD fuddugoliaeth fawr i Israel. Roeddet ti'n hapus iawn pan welaist ti hynny. Pam mae'n rhaid i ti bechu drwy dywallt gwaed diniwed – lladd Dafydd am ddim rheswm?”
6 Dyma Saul yn gwrando ar gyngor Jonathan, ac addo ar lw, “Mor sicr â bod yr ARGLWYDD yn fyw, wna i ddim ei ladd e!”
7 Felly dyma Jonathan yn galw Dafydd a dweud wrtho beth ddigwyddodd. Aeth ag e at Saul, a cafodd Dafydd weithio iddo fel o'r blaen.